1 Hawddammor glwysgor glasgoed
2 fis mai hav cans mav hoed
3 kadarn farchog serchog sal
4 kadwynog feistr coed anial
5 kyfaill cariad ac adar
6 kof y serchogion ai kar
9 Amawr fydd myn mair i fod
10 Mai fis difai yn dyfod
11 Ar fryd arddelw frwd vrddas
12 Ar oresgyn pob glyn glas
13 Gwasgod praff gwisgad priffyrdd
14 Gwisgodd bob lle ai we wyrdd
15 Pan ddel ar ol rhyfel rhew
16 Pill doldir Pall adeildew
17 Gleision fydd mav grefydd grill
18 llwybrav mai yn lle
bv Ebrill
19 [113v] Y daw ar vcha blaen dar
20 kaniadav cywion adar
21 A chog ar fan pob rhandir
22 A chethlydd a hoywddydd hir
23 A niwl gwyn yn ol y gwynt
24 Yn diffryd canol dyffrynt
25 Ag wybren hoyw ar byrnhawn
26 fydd a glwyswydd a glaswawn
29 A chof fydd forfydd fevrferch
30 A chyffro saith nowtro serch
31 Annhebig i'r mis dig dv
32 A gerydd i bawb garv
33 A bair tristlaw a byrddydd
34 A gwynt i ysbeiliaw gwydd
35 Ac oerfel a rhyfel rhew
36 A llaesglod a chenllysglew
37 Ac annog llanw ac anwyd
38 Ac mewn naint llifeiriaint llwyd
39 A llawn son mewn afonydd
40 A llidiaw a digiaw dydd
41 [114r] Ac wybren drymled ledoer
42 Ai lliw yn gorchuddio'r lloer
43 Del iddaw rhyw addaw rhwydd
44 Devddrwg am i wladeiddrwydd
Da' ap Glm'